Menu / Cynnwys

Sardis Road / Heol Sardis

Sardis Road is the iconic home stadium of Pontypridd RFC, situated in Pwllgwaun at the confluence of the rivers Taf and Rhondda.

The stadium was famously baptised as ‘The House Of Pain’ by Pontypridd, Wales and British Lions legend Neil Jenkins – a place where opponents feared to tread!

The club has been based there since 1974, having previously played at Parc Ynysangharad and the Taff Vale Park.

The ground was built on the location of an old coal pit, locally known as ‘Dan’s Muckhole’ and the playing surface lived up to that name, often churning up into a mudbath during spells of heavy rainfall.

In 2016 the pitch was relayed with a state of the art 3G surface, giving Sardis Road a new lease of life not only as a stadium for Pontypridd RFC but as a commodity used by the wider community.

Heol Sardis yw stadiwm eiconig Clwb Rygbi Pontypridd, wedi ei lleoli yn ardal Pwllgwaun ar aber afonydd Taf a Rhondda.

Cafodd y stadiwm ei llysenwi fel yr ‘House Of Pain’ gan arwr Pontypridd, Cymru a’r Llewod Neil Jenkins – yn fangre fyddai’n codi arswyd ar y gwrthwynebwyr!

Mae’r clwb wedi ymgartrefu yno ers 1974, gan chwarae yn flaenorol ym Mharc Ynysangharad a Pharc Taff Vale.

Gosodwyd y maes chwarae ar safle hen bwll glo a adnabyddid yn lleol fel ‘Dan’s Muckhole’, enw addas ar adegau i faes oedd yn gors o laid adeg glaw trwm.

Yn 2016 cafodd y maes ei adnewyddu gyda arwynebedd 3G o’r safon uchaf, gan roi bywyd newydd i Heol Sardis nid yn unig fel stadiwm i Glwb Rygbi Pontypridd ond fel adnodd gwerthfawr i’r gymuned leol ehangach.