Menu / Cynnwys
Return to News

Ponty yn lawnsio cit yr enfys i gefnogi’r GIG

Tra fod y tymor rygbi wedi dirwyn i ben yn ddisymwth fel canlyniad i ledaeniad y feirws covid-19, gan ohirio gweddill gemau Uwch-Gynghrair Indigo a’r gornestau traws ffiniol yn erbyn clybiau o’r Alban, mae CR Pontypridd wedi bod yn ddiwyd yn paratoi er mwyn lawnsio cit chwarae newydd ar gyfer ymgyrch 2020/21.

O ystyried y gwaith gwych gan adrannau GIG Cymru, mae’r clwb wedi penderfynnu lawnsio cit unigryw mewn teyrnged i’r GIG a fydd yn cael ei ddefnyddio trwy gydol y tymor.

Yn dilyn lawnsiad y cit bydd y gefnogaeth i’r Gwasanaeth Iechyd yn parhau gan fod CR Pontypridd wedi nodi’r GIG a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn benodol fel elusen, gan godi arian mewn nifer o wahanol ffyrdd drwy gydol tymor 2020/21.

Mae’r crys newydd ar sail dyluniad eiconig CR Pontypridd gan ddwyn i gôf llwyddiant epig y clwb yn y Cwpan Cenedlaethol yn erbyn Castell Nedd yn 1996. Bydd y cit unigryw yn adlewyrchu lliwiau enfys y GIG i dystio cefnogaeth i’r holl weithwyr iechyd rheng-flaen.

Dywedodd Rheolwr Tîm Pontypridd, Dan Godfrey, am lawnsiad y cit newydd: “Rwy’n hynod falch fod Rygbi Ponty yn dangos cefnogaeth i’r GIG. Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai heriol i ni gyd. Mae’r achos yma yn agos at fy nghalon gan fod fy ngwraig yn gweithio ar y rheng flaen i’r GIG.

“Rydym ni ym Mhontypridd yn ystyried ein hunain fel conglfaen rygbi’r Cymoedd ac yn ceisio dod a’n cefnogwyr a’r gymuned ehangach at ei gilydd yn yr amseroedd gofidus hyn.

“Bydd lawnsiad y cit newydd yn dynodi penod newydd yn hanes CR Pontypridd ac i Rygbi Cymru yn gyffredinol. Gallwn edrych mlaen i dymor 2020/21 gyda’i holl sialensau unwaith fod y pandemig byd eang yma ar ben.”

#NHS #Stayhome #Staysafe #Pontyfamily

Gwybodaeth Ychwanegol:

Bydd gwybodaeth bellach i gefnogwyr am brynu crys unigryw CR Pontypridd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y clwb cyn hir.

Bydd y clwb yn cysylltu a’r  holl noddwyr presennol i drafod parhau mewn partneriaeth ar gyfer y tymor nesaf. Gall unrhyw noddwyr newydd neu unrhywun sydd am wybodaeth ychwanegol am y clwb a’r cit, gysylltu trwy e-bost: media@ponty.net