Menu / Cynnwys
Return to News

The Ponty medics / Meddygon Ponty

There have been changes made to the medical team at Pontypridd RFC this season, but with no impact on the level of expertise available in treating the senior squad.

L to R: Matthew Piper; Mike Foster; Matthew Larsen; Kyle Dobbin; Jack Marsh

A number of departures over the summer months meant that changes were called for, with club doctor Gareth Lloyd, chartered physiotherapist Ben Searle and physio Kerry Jones all standing down due to work and family commitments.

Dai Thomas, medical co-ordinator at Pontypridd RFC, has been diligent in securing quality replacements for all roles.

Former Blues and Leicester back rower Matthew Larsen steps in as club doctor, with Jack Marsh taking over as chartered physiotherapist. Marsh will be aided by physio’s Matthew Piper and Kyle Dobbin.

With a top team of surgeons standing by to treat the more serious injuries, including Dave Pemberton, Stuart Roy, Mike Foster, Stuart James and Lyndon Meehan, the Ponty squad will be guaranteed the best medical care again as the season progresses.


Mae newidiadau wedi eu gwneud i dîm meddygol CR Pontypridd y tymor hwn, ond heb leihau dim ar y safon o arbenigedd ar gael i’r garfan.

Roedd nifer o ymadawiadau dros yr haf yn golygu fod newid yn anochel, gyda’r meddyg Gareth Lloyd, y ffisiotherapydd siartredig Ben Searle a’r ffisio Kerry Jones yn camu i’r naill ochr oherwydd gofynion gwaith a theulu.

Mae cydlynydd meddygol CR Pontypridd Dai Thomas wedi bod yn drylwyr yn sicrhau olynydd teilwng ymhob swydd.

Mae cyn chwaraewr rheng-ôl y Gleision a Chaerlyr Matthew Larsen yn camu mewn i swydd y meddyg, gyda Jack Marsh yn olynu fel ffisiotherapydd siartredig. Bydd Marsh yn cael ei gynorthwyo gan y ddau ffisio Matthew Piper a Kyle Dobbin.

Gyda tîm o law-feddygon o’r safon uchaf wrth law i drin yr anafiadau mwy cymleth, gan gynnwys Dave Pemberton, Stuart Roy, Mike Foster, Stuart James a Lyndon Meehan, bydd carfan Ponty yn sicr o’r gofal mwyaf arbenigol wrth i’r tymor fynd rhagddo.