Menu / Cynnwys
Return to News

Cyfle Swydd: Cyfarwyddwr Cyllid

Mae Ponty Rugby Cyf yn hysbysebu’r swydd o Gyfarwyddwr Cyllid.

Mae swydd y Cyfarwyddwr Cyllid yn un anrhyddedus (wirfoddol). Mae’r deiliad blaenorol wedi ymadael oherwydd amgylchiadau personol ond yn parhau yn aelod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr ac yn barod i gynnig arweiniad cychwynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Cyfle Swydd: Cyfarwyddwr Cyllid Ponty Rugby Cyf

Yr ydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cyllid Anrhydeddus, un a all gynorthwyo i ddylanwadu ar ddyfodol ein Clwb Rygbi, ac i wireddu ei strategaeth ariannol.

Bydd angen dealltwriaeth drylwyr a phrofiad o gyllido a chyfrifiaeth. Bydd y swydd ran-amser hon yn addas i gyfrifydd sy’n gweithio oriau wedi eu cwtogi, wedi lled-ymddeol, wedi ymddeol, neu yn dymuno hybu ei brofiad / phrofiad yn y math yma o waith.

Bydd angen bod yn atebol am drefniant ariannol y Clwb ac i osod canllaw ar gyfer dyfodol y Clwb yn unol ac anghenion a phenderfyniadau’r Bwrdd.

Bydd angen cyflwyno cynlluniau a rhagolygon ariannol blynyddol, ac i’w monitro drwy’r flwyddyn i sylwi ar unrhyw wahaniaethau o bwys rhwng y canlyniadau gwirioneddol a’r rhagolygon.

Yn ogystal bydd angen cynghori’r Bwrdd am statws ariannol y Clwb ac unrhyw wyriad oddi wrth y safbwynt cyllidol, i sicrhau diogelwch ariannol y Clwb, i fonitro’r holl weithgaredd masnachol (e.e. nawdd, gwerthiant y bar, llogi’r maes chwarae ayb.), cyflwyno cyllidebau, adroddiadau a chyfrifon, i sicrhau fod systemau ariannol y Clwb yn ddiogel ac yn gymwys gan gadw adroddiadau addas ac fod cyfundrefn ariannol effeithiol yn ei lle.

Ymhellach, bydd angen cymryd cyfrifoldeb am gyflwyno talebau, nwyddebau a thaliadau, adnewyddu yswiriant yn flynyddol, paratoi a chyflwyno dogfennau statudol fel y bydd angen (e.e.TAW, TWE ayb.), paratoi a chyflwyno cyfrifon ar gyfer yr adroddiad a’r archwiliad blynyddol, ac i gyflwyno yn ffurfiol y cyfrifon i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Ymgeisiwch yn ysgrifenedig i:

Prif Weithredwr Ponty Rugby Cyf. Y Clwb, Heol Sardis, Pontypridd, CF371HA.

Dyddiad cau: Mercher 29ain o Awst 2018.