Menu / Cynnwys
Return to News

Rhydian y bachwr a’r canwr

Does dim sicrwydd os yw CR Pontypridd erioed o’r blaen wedi cael canwr operatig o fri, heb son am aelod o Orsedd y Beirdd, fel aelod o’r garfan, ond y mae nawr.

Pan ymunodd y bachwr Rhydian Jenkins a Ponty o Cross Keys dros yr haf, gallai gynnig nid yn unig cryfder corfforol ond hefyd llais melodaidd.

Roedd y crwt o Gwm Llynfi gynt wedi chwarae i Tondu, Prifysgol Caerdydd a Cwins Caerfyrddin, cyn treulio tymor gyda Cross Keys. Yna, yn ddwy-ar-hugain oed ac yn sefyll yn ddwy lath o daldra, dros yr haf fe symudodd i Heol Sardis yn barod ar gyfer y tymor i ddod.

Mae gorchestion Rhydian fel canwr yn rhy niferus i’w cofnodi, wedi ennill cystadleuthau gwerin a chlasurol yn Eisteddfodau Llangollen a’r Genedlaethol, gan gynnwys y Rhuban Glas cerdd dant yn 2018 a Gwobr Goffa’r Fonesig Ruth Herbert Lewis eleni. Mae wedi canu ar lwyfan Neuadd Albert yn Llundain a’r penwythnos i ddod bydd yn ceisio am Ysgoloriaeth Bryn Terfel, i’w darlledu ar S4C.

Mae’r tenor o fri yn awr yn astudio Perfformiad Cerdd yn y Coleg Cerdd a Drama, gyda’r gobaith o sicrhau bywoliaeth fel canwr operatig clasurol. Y mae yr un mor benderfynnol o ddatblygu ei yrfa rygbi gyda Pontypridd.

“Rwy wedi setlo’n dda yn y clwb” meddai Rhydian, “ac mae yna agosatrwydd o fewn y garfan sy’n ei gwneud hi’n hawdd i gynefino. Mae yna gystadleuaeth ymhob safle sy’n beth da.”

Yn ol y chwaraewr rheng flaen diwylliedig, ni fu galw hyd yn hyn ar ei ddoniau lleisiol o fewn y garfan.

“Mae’r bois wedi gwneud ambell sylw am fy nghanu, a’r cyfan mewn hwyliau da. Rwy’n amau daw’r prawf ar ein trip oddi cartref cynta – falle bydd galwad i fi roi can yn null Pavarotti neu Paul Potts ar y bws. Rwy wedi clywed fod y safon yn uchel, gobeithio na wna’i siomi.”

Bydd cefnogwyr Ponty yn cadw llygad, a chlust craff, ar y bachwr newydd, yn y gobaith mai canu wrth ennill y bydd yn ei wneud.