Menu / Cynnwys
Return to News

Rhydian Jenkins – y tenor sy’n taclo

bbc cymrufyw

Mae Rhydian Jenkins yn wyneb cyfarwydd i Eisteddfotwyr pybur, ond i gefnogwyr Uwch Gynghrair Rygbi Cymru ei daclo sy’n denu sylw yn hytrach na’i ddawn fel tenor.

Y tymor diwethaf fe ymunodd Rhydian, sy’n dod o Faesteg, â chlwb Pontypridd o Cross Keys – breuddwyd i’r bachwr gynrychiolodd dimau ieuenctid y Scarlets a’r Gweilch flynyddoedd yn ôl.

“Pan ‘nath Pontypridd gynnig i fi fynd ‘na – o’n i bach yn shocked – ma’ nhw’n glwb mawr,” meddai.

“Pan o’n i’n dechrau chware i’r seniors pan on i’n 18, o’n i’n gwylio Dafydd Lockyer a Chris Dicomidis a pan es i mewn i’r sesiwn gynta’ o’n nhw yna yn y ‘stafell newid a o’dd rhaid i fi binsho’n hunan.

Fi’n lico bach o Backstreet Boys – I want it that way – ma’ hwnna’n ffefryn i fois Ponty.

“Mae pawb ‘di bod yn ffantastig – ma’ nhw ‘di derbyn fi fel chwaraewr rygbi a hefyd fel canwr.”

Yn ogystal â’r rygbi mae Rhydian newydd orffen cwrs ôl-radd yng Nghaerdydd yn astudio llais a pherfformio a mae ar fin dechrau ar ddwy flynedd o astudio pellach gyda chwrs meistr opera. Felly sut dderbyniad gafodd ei ganu a’i gystadlu ar Heol Sardis?

“Os fi’n onest fi ‘di cael e lle bynnag fi’n ‘ware. Fi’n cofio social ‘Dolig Ponty i ffwrdd yn Abertawe a digwydd bod o’dd tim Abertawe yn cael social nhw ‘fyd – ac o’dd carioci ‘na. O fewn eiliadau o’n i lan – odd e’n inevitable!

“Mae ‘da fi repertoire nawr achos fi’n gorfod canu dair i bump cân! Fi’n lico bach o Backstreet Boys – I want it that way – ma’ hwnna’n ffefryn i fois Ponty.

“Fi ‘di derbyn nawr bod ‘na sylwadau yn mynd i fod ond ma’ pawb yn rili gefnogol. Mae cwpl o’r bois yn galw fi’n ‘Pav’ nawr ond sai’n siwr os fi lan i’r safon ‘na ‘to!”

Mae’r cyfnod clo wedi bod yn un rhwystredig i Rhydian. Mae’r tymor rygbi wedi dod i ben a does dim sôn eto pryd fydd yn ail-ddechrau.

“‘O’n i fod lan yn yr Alban ar hyn o bryd yn chware,” eglurodd Rhydian. “‘O’dd fi a Ponty yn edrych mlaen i hwnna. Fi’n credu fi yn yr un sefyllfa a lot o chwaraewyr yn y gynghrair a’r cynghreiriau o dan ni ‘fyd.

“Os fi’n onest s’dim clem pryd fydd pethe yn mynd nôl i normal. Ni’n tybio pan fyddwn ni yn mynd nôl i ymarfer bydd dim byd agos i ddechrau. Ar y funud ma chwaraewyr Ponty just yn clatsho mlan ‘da pre-pre-pre-season!

“Fi’n gobeithio o fewn cwpl o fisoedd neu diwedd y flwyddyn y bydd rhyw fath o ddechreuad – croesi bysedd.”

O ran y canu hefyd mae’r calendr bellach yn wag – siom i’r gŵr a enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel nôl ym mis Hydref.

“Ym mis Mawrth o’n i fod yn canu ym Mharis yn nhŷ llysgennad y Deyrnas Unedig. O’n i ar y trên i Paddington ar ôl gadael Caerdydd am ddeg munud i un, ac am bum munud i un o’n i’n gorfod gohirio fe oherwydd y coronfeirws.

“Ddiwedd Mawrth o’n i fod yn Tokyo yn canu yn Kitakyushu, wedyn o’n i fod i ganu yng nghyngerdd agoriadol Steddfod yr Urdd, ac w’thnos dwetha’ dylen i fod wedi bod yn Canada – felly clean sweep. Ond gobeithio byddan nhw’n cael eu hail-drefnu flwyddyn nesa’.”

Mae Rhydian yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol, ac wedi profi llawer o lwyddiant dros y blynyddoedd

Fe allai’r blynyddoedd nesaf fod yn rhai prysur i Rhydian felly ond beth fydd yn cael y flaenoriaeth? Petai’n gorfod dewis rhwng cap rhyngwladol neu ganu’r anthem yn y Stadiwm Genedlaethol beth fyddai’n mynd â hi?

“Beth am os fi’n cael cap, canu yn y kit a wedyn chware’n syth ar ôl? Os alla i barhau i neud y ddau mor hir â phosib, gore oll, ond yr un mwya’ tebygol yw canu’r anthem!”

Caru’r canu a’r cae rygbi – fel pob Cymro da!

In this article published on ‘BBC Cymru Fyw’ Ponty hooker Rhydian Jenkins talks of his frustrations during the lockdown period, both as a rugby player and as a prominent singer.

Joining Pontypridd last season was a dream come true for him, and he now has a singing repertoire to entertain the squad on social occasions.

Rhydian, who won the Bryn Terfel scholarship in October, has missed out on singing assignments in Paris, Tokyo and Canada recently due to the coronavirus pandemic.

As for his ambitions – what an occasion it would be if he was selected for Wales, sang the pre-match anthem in full kit then played for his country!

Wordsearch

bachwr : hooker

canwr : singer

cyngerdd : concert

ymarfer : training

llwyddiant : success