Menu / Cynnwys
Return to News

Pontypridd v Llanelli 2002 – atgofion Mefin Davies

bbc.co.uk/cymrufyw

Gyda’r ddau erbyn hyn yn hyfforddi yng Nghynghrair y Pro14, mae Robin McBryde a Mefin Davies yn paratoi i wynebu’i gilydd gyda Leinster a’r Dreigiau y tymor nesaf.

Ond yn ôl yn 2002 roedd y ddau fachwr yn herio’i gilydd ar y cae yn rownd derfynol Cwpan Swalec. McBryde – dewis cyntaf Cymru – oedd bachwr Llanelli gyda Mefin yn rheng flaen Pontypridd. Ond roedd y gŵr ifanc o Nantgaredig gyda’i fryd ar frwydro am le yn y tîm rhyngwladol ar ôl cael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer Taith Haf Cymru i Dde Affrica yn 2002.

“O’n i’n sylweddoli taw Robin o’dd â’r crys rhif 2 yng Nghymru ac o’dd e’n haeddu ei le, ond o’n i moyn brwydro am y crys. Pan ges i fy newis i fynd i Dde Affrica o’n i’n wên o glust i glust ac wedyn yn y rownd derfynol yn ‘ware yn erbyn Robin – galle fe ddim ‘di bod yn well.”

hawlfraint: Warren Little

Roedd Mefin ar ben ei ddigon i gael chwarae yn rownd derfynol Cwpan Swalec, ond roedd ei bresenoldeb ar y cae yn dipyn o ben tost i’r ddau Gymro Cymraeg yn rheng flaen y gwrthwynebwyr.

“O’n i’n gwybod bod (y prop) John Davies a Robin yn siarad Cymraeg yn y rheng flaen i Lanelli ar y pryd. Falle ‘na’th e wanhau nhw bod yn rhaid siarad Saesneg ar y dydd a falle bo’ nhw wedi cael y galwadau yn anghywir. Ma hwnna’n fine da fi!”

Doedd neb yn disgwyl llawer o’r ornest rhwng Llanelli a Phontypridd ar y prynhawn Sadwrn hwnnw yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Roedd y gwŷr mewn sgarlad yn anelu am y dwbl ar ôl ennill y gynghrair. Wedi’r cyfan, nhw oedd cewri’r gwpan â’u bryd ar godi’r wobr am y 12fed tro o fewn 30 mlynedd. Roedd 12 chwaraewr rhyngwladol yn rhengoedd tre’r Sosban, a dau yn unig yn stabl Heol Sardis.

“O edrych nôl odd ‘na enwau mawr ‘da Llanelli – John a Robin, yr Easterbys, Dwayne Peel a Daf Jones ar y fainc , Stephen Jones yn faswr, Leigh Davies, Matt Cardy, a Mark Jones ar yr asgell. O’dd carfan ifanc ‘da ni – Gethin Jenkins, Robert Sidoli, Brent Cockbain, Michael Owen, Richard Parks – pobl o’dd ddim ‘di cael eu capiau cynta’ eto.”

Er y diffyg profiad rhyngwladol roedd tîm Pontypridd llawn addewid yn ôl Mefin Davies.

“O’n i ar lwybr o wella a datblygu, o’dd yr hyfforddwyr yn rhoi sesiyne ofnadwy o galed i ni. Ond edrych ‘nôl, falle bod hwnna wedi talu ffordd – o’dd ein cyrff ni’n gryf.”

Felly ai dyma oedd eu cyfle? Gyda’r gem yn gyfartal ag wyth munud ychwanegol wedi ei chwarae fe gamodd Brett Davey i’r adwy. Cafodd y dyn a oedd wedi hawlio pob un o bwyntiau Ponty y prynhawn hwnnw gic gosb a chyfle i ennill y gem. Fe lwyddodd – gyda’r cefnwr yn mynnu iddo gael breuddwyd yn gynharach yn yr wythnos taw dyna fyddai’n digwydd.

“Odd e’n ffantastig! Odd Brett Davey yn arwr ar y dydd, yn dalent, yn gallu cicio a darllen y gêm o flaen pawb arall. Odd e’n neis mewn ffordd i rywun serennu o’dd ddim yn rhan o dîm Cymru.”

Buddugoliaeth i Bontypridd felly ond doedd fawr o amser i ddathlu gyda rownd derfynol Tarian y Parker Pen yn eu disgwyl yn erbyn Sale yr wythnos ganlynol. Byddai buddugoliaeth yno wedi sicrhau eu lle yn Nghwpan Heineken y tymor canlynol. Tipyn o wobr, ond nid felly y bu hi yn anffodus.

“Fi’n credu o edrych nôl o’dd e cam rhy bell – roedden ni mor agos ond falle bo’ ni wedi blino – dim esgusodion – gollon ni – falle o’dd hi’n anodd i gael dwy gem fawr ar ol ei gilydd.”

Un cwpan yn unig ddaeth yn ôl i Heol Sardis y tymor hwnnw felly, ond roedd yn gwpan i’w drysori. Yn 2003 roedd newid byd ar droed i rygbi yng Nghymru, gyda dyfodiad y 5 rhanbarth ar y gorwel.

Llanelli v Pontypridd: 02 Trwy lygaid Mefin Davies a Gareth Charles Nos Sadwrn am 18.15 ar S4C

In this article on BBC Cymru Fyw former Ponty hooker Mefin Davies looks back at the epic Welsh Cup win over Llanelli in 2002.

Mefin faced his Welsh squad rival Robin McBryde, and a Llanelli team packed with experienced internationals, very much favourites to win the trophy. It was however unfancied Ponty, well trained and physically prepared, who claimed victory. Welsh speaker Mefin was able to decode the Llanelli scrum and line-out calls, to his team’s advantage.

The following week Pontypridd went down to defeat against Sale in the Parker Pen Shield final, in Mefin’s view a game too far for a tired squad.

Wordsearch:

bachwr : hooker

achlysur : occasion

arwr : hero

buddugoliaeth : victory

dathlu : celebrate