Menu / Cynnwys
Return to News

Ponty yn teimlo’r boen

Mae cyfres a anafiadau wedi llethu carfan CR Pontypridd yn ddiweddar wrth i’r garfan barhau i frwydro am lwyddiant yn Uwch-Gynghrair y Dwyrain.

Roedd rhediad o saith buddugoliaeth o’r bron wedi codi Ponty i frig y tabl, gan chwarae rygbi creadigol a chyffrous oedd wrth fodd y torfeydd mawr fu’n gwylio gemau gartref ar Heol Sardis ac yn dilyn y tim ar y ffordd.

Daeth rhai o’r buddugoliaethau hynny fodd bynnag ar gost anafiadau i chwaraewyr dylanwadol.

Mae’r cefnwr ifanc disglair Lloyd Rowlands, yn ei dymor cyntaf gyda Ponty ers ymuno o Benallta dros yr haf, wedi torri pont ei ysgwydd, o bosib angen llawdriniaeth ac yn wynebu cyfnod o fisoedd yn segur.

Un sydd eisioes wedi bod dan y gyllell yw’r prop addawol Will Davies-King ar ol rhwygo cyhyrau ei ffer, tra fod yr asgellwr chwim Dale Stuckey wedi dioddef anaf tebyg.

Mae’r tri chwaraewr wedi bod yn serennu yn gemau Pontypridd a bydd colled fawr ar eu hol am y tro.

Eraill o’r garfan sydd wedi anafu yw’r asgellwr Lewis Williams (ffer), y canolwr Jarrad Rees (coes), y bachwr Huw Dowden (cyfergyd) a’r blaen-asgellwr Jake Thomas sy’n gwella o lawdriniaeth i’w ben-glin.

Gyda’r holl anafiadau roedd Ponty yn wynebu tasg ddigon anodd wrth deithio i chwarae pencampwyr y gynghrair Merthyr ar nos Wener 17fed o Dachwedd. Ar ol dechrau addawol i’r gem roedd Ponty dan bwysau cynyddol, a cholli’n drwm fu’r hanes o 50pt i 21 gan ddod a’r rhediad o fuddugoliaethau i ben. Roedd y canlyniad siomedig er hynny yn gadael Ponty yn gydradd a Merthyr ar frig y tabl.

Y gobaith i Bontypridd nawr fydd ail ganfod eu hyder i ennill gemau, ac i weld nifer o’r chwaraewyr dylanwadol yn gwella’n bur gyflym o’u hanafiadau. Nid gem i’r gwan na’r gwan-galon yw rygbi!

This article commissioned for the local Welsh language journal Tafod Elai catches up with the run of injuries recently suffered by the Pontypridd squad.

Influential players such as full back Lloyd Rowlands, winger Dale Stuckey, prop Will Davies-King and hooker Huw Dowden have all been sidelined.

An impressive run of seven consecutive league victories came to an end at Merthyr on 17th November, a difficult enough venue to visit without so many key players absent.

The hope for Ponty will be to welcome back their injury absentees sooner rather than later and regain the confidence to win games.

Wordsearch

anafiadau : injuries

llawdriniaeth : surgery

colled : loss

cyfergyd : concussion

dylanwadol : influential