Menu / Cynnwys
Return to News

Ponty yn mynd o nerth i nerth

Cafwyd seibiant yn ymgyrch Uwch-adran y Principality ym mis Hydref wrth i gemau Cwpan Prydain ac Iwerddon gael eu chwarae, gyda timau yn cynrychioli y pedwar rhanbarth Cymraeg yn cymryd rhan.

Yn y gorffennol clybiau fel Pontypridd oedd yn cael yr hawl i chwarae yn y Cwpan, a chafwyd gornestau bythgofiadwy yn erbyn timau megis Leinster, Caeredin, y Cornish Pirates a Bryste.

Erbyn hyn, yn ol doethineb Undeb Rygbi Cymru, timau rhanbarthol sy’n cynrychioli’r wlad, a hynny yn peri dicter a digofaint ymysg cefnogwyr Ponty, ond stori arall yw honno!

Cyn yr egwyl roedd Ponty wedi chwarae saith gem yn yr Uwch-gynghrair, ac wedi mynd o nerth i nerth wedi dechrau anghyson i’r tymor.

Llwyddwyd i ennill pedair gem o’r bron, gan godi Pontypridd i’r ail safle yn is-adran y dwyrain, gyda Bedwas yn unig uwch eu pennau. Roedd y tim yn chwarae rygbi mentrus, yn ymosod o bob rhan o’r cae ac yn sgorio ceisiau cofiadwy.

Uchafbwynt y tymor hyd yn hyn oedd y gem oddi cartref yn erbyn Caerdydd ar 7fed o Hydref.  Roedd hon yn gem o safon uchel rhwng dau dim oedd yn gwbwl ymroddedig i ymosod a gwrth-ymosod drwy gydol yr wythdeg munud. Ponty oedd yn fuddugol o 28pt i 46 gan sgorio chwe cais.

Wedi’r ysbaid o bythefnos roedd Ponty yn ol ar faes y gad ar ddydd Sadwrn 28ain o Hydref gyda gem oddi cartref yn erbyn y tim ar frig y tabl, Bedwas. Wedi gornest gyffrous arall Ponty oedd yn fuddugol o 15pt i 37, gan hawlio pwynt bonws gwerthfawr am y pedwar cais sgoriwyd.

This article, commissioned for the local Welsh language journal Tafod Elai, follows Pontypridd’s form through the season so far, before and after an enforced break during which the British & Irish Cup took precedence.

After an inconsistent start Ponty have picked up momentum with a record so far of playing eight and winning six. The team are not just winning but winning in style, playing expansive rugby and scoring some memorable tries.

Highlights of the campaign were the last two games played, both away from home, with excellent victories recorded over form teams Cardiff and Bedwas.

Word search:

Hydref – October

safon : standard

cyffrous : exciting

gornest : contest