Menu / Cynnwys
Return to News

Mis o anghysondeb ac addewid

Mae Clwb Rygbi Pontypridd wedi dechrau’r tymor newydd gyda record o ennill pedair a cholli dwy o fewn y mis cyntaf, a hynny’n adlewyrchu anghysondeb ar adegau yn eu perfformiadau ond hefyd cryn dipyn o addewid am bethau gwell i ddod.

Bu newidiadau mawr o fewn y clwb dros yr haf, gyda’r hyfforddwr profiadol Justin Burnell yn dychwelyd a’r cyn chwaraewr Dan Godfrey yn etifeddu swydd rheolwr y tim.

Gwireddwyd polisi o estyn allan i glybiau lleol i ddarganfod talentau newydd ifanc, gyda chwaraewyr di-brofiad fel y cefnwr Lloyd Rowlands o Benallta, y clo Josh Hawkins o Rydyfelin a’r prop Will Davies-King o Brifysgol Met Caerdydd yn ymuno a’r garfan.

Roedd yn anochel y byddai’r holl newidiadau yn cymryd peth amser cyn cynefino a felly y bu.

Ar ol dwy fuddugoliaeth yn erbyn Abercwmboi a Clifton mewn gemau cyfeillgar, yr her gyntaf yn yr Uwch-adran i Bontypridd oedd wynebu Bedwas ar Heol Sardis. Colli fu’r hanes o 27pt i 39, ond gellir rhoi’r canlyniad hwnnw yn ei gyd-destun o ystyried for Bedwas wedi parhau i ennill gan hawlio’r safle uchaf yn y tabl.

Teithiodd Ponty i gwrdd a Glyn Ebwy nesaf a sicrhau buddugoliaeth werthfawr o 6pt i 17, ond yna ildio’r momentwm wythnos yn ddiweddarach mewn gornest gyffrous ar faes Rodney Parade, gan golli o 29pt i 27 yn erbyn Casnewydd, a hynny mewn gem y gellid fod wedi ei hennill.

Ar ddydd Sadwrn 16fed o Fedi y pencampwyr Merthyr oedd yr ymwelwyr i Heol Sardis a hynny gyda charfan hynod o gryf wedi ei phrynu gan fuddsoddiad y miliwnydd Sir Stan Thomas.

Yn gem ddarbi’r cymoedd, ac o flaen torf sylweddol o dros 2,000, Pontypridd oedd yn drech o 42pt i 29 a hynny wedi perfformiad creadigol yn ail hanner y gem, gan sgorio pum cais.

Aed ymlaen wedyn i ennill oddi cartref yn erbyn Bargoed a gartref yn erbyn Cross Keys, gan godi Ponty i’r ail safle yn y tabl.

Mae’r tymor, yn ol tystiolaeth y mis cyntaf, yn argoeli i fod yn un hynod o gystadleuol. Mae’r Uwch-adran wedi ei rhannu yn ddwy – dwyrain a gorllewin – am hanner cyntaf y tymor, cyn uno i un gynghrair yn y flwyddyn newydd.

Y nod i Bontypridd fydd cynnig profiad i’r garfan ifanc, a chyfle i ddysgu eu crefft, gan obeithio y gellir herio am lwyddiant yn y gynghrair ac yn y Cwpan Cenedlaethol.

This article commissioned for the local Welsh language journal Tafod Elai, chronicles the first month of the new season for Pontypridd. The team has shown inconsistency at times, but a promise of better things to come, with a record of winning four and losing two to hold second place in the table.

The aim of new coach Justin Burnell is to re-connect with local clubs, drafting in new players and giving them an opportunity to learn their trade in the tough environment of the Premiership.

Wordsearch

addewid : promise

hyfforddwr : coach

gornest : contest

cymoedd : valleys

dwyrain : east

profiad : experience