Menu / Cynnwys
Return to News

Give Blood / Rhowch Waed

Ponty fans urged to ‘try’ saving lives…

​​​​​​​Pontypridd RFC has teamed up with the Welsh Blood Service to encourage Ponty fans to put their lockdown time to good use by giving essential blood donations.

Giving blood is considered ‘essential travel’ under the latest government guidelines and people across the local area who are fit and well are being called upon to make a lifesaving donation during the covid-19 pandemic.

Despite the pandemic, blood donations are still needed by hospitals across Wales to treat patients with a range of conditions, including mothers and babies during childbirth; cancer patients receiving chemotherapy as part of their treatment; and patients involved in emergency situations.

Each donation can save or improve up to three lives.

Blood stock levels in wales are currently healthy thanks to support from new and existing donors. However, donors are being urged to attend their local donation session to ensure stocks remain sufficient to meet hospital demands.

Additional measures have been put in place during the pandemic at every blood donation session to make the experience as safe as possible for donors including:

  • all donors and staff are asked additional questions upon arrival regarding covid-19;
  • social distancing measures have been introduced throughout the donation process as well as a reduction in the number of donors on session at any one time; and,
  • personal protective equipment (PPE) has been provided for staff.

Alan Prosser, Director of the Welsh Blood Service, said:

“Pontypridd RFC is an historic club and the heartbeat of its local community so we are thrilled they’re encouraging fans throughout the local area to consider giving blood.

“Blood donation is considered essential travel so if you’ve never given blood before and you are not currently self-isolating under the latest Government guidance for covid-19, please consider taking the time to book an appointment to donate.”

If you are aged 17-65, you can find and book your first blood donation session by visiting www.welshblood.org.uk.

Cefnogwyr Ponty’n cael eu hannog i geisio achub bywydau…

​​​​​​​Mae Clwb Rygbi Pontypridd wedi ymuno â Gwasanaeth Gwaed Cymru i annog cefnogwyr Pontypridd i wneud defnydd da o’r cyfyngiadau symud ar hyn o bryd drwy roi rhoddion gwaed hanfodol.

Mae rhoi gwaed yn cael ei ystyried yn ‘deithio hanfodol’ yn unol â chanllawiau diweddaraf y Llywodraeth, ac mae pobl sydd yn ffit ac yn iach ar draws yr ardal leol yn cael eu galw i roi rhodd achub bywyd yn ystod y pandemig covid-19.

Er gwaethaf y pandemig, mae angen rhoddion gwaed ar ysbytai ar draws Cymru o hyd i drin cleifion sydd ag amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys mamau a babanod yn ystod genedigaeth; cleifion canser sy’n cael cemotherapi fel rhan o’u triniaeth; a chleifion mewn sefyllfaoedd brys.

Gall pob rhodd achub neu wella hyd at dri bywyd.

Mae lefelau stociau gwaed yng Nghymru yn iach ar hyn o bryd, diolch i gefnogaeth rhoddwyr newydd a phresennol, ond mae rhoddwyr yn cael eu hannog i fynychu eu sesiwn rhoi gwaed lleol, i sicrhau bod stociau’n parhau i fod yn ddigonol i fodloni gofynion ysbytai.

Mae mesurau ychwanegol wedi cael eu rhoi ar waith yn ystod y pandemig ym mhob sesiwn rhoi gwaed, er mwyn gwneud y profiad mor ddiogel â phosibl i roddwyr.  Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:

  • gofyn cwestiynau ychwanegol ynghylch covid-19 i’r holl roddwyr a staff pan fyddant yn cyrraedd;
  • cyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol drwy gydol y broses rhoi gwaed, yn ogystal â lleihau nifer y rhoddwyr mewn sesiwn ar unrhyw un adeg; a
  • darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) i staff.

Meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru:

“Mae Clwb Rygbi Pontypridd yn glwb hanesyddol ac yn ganolbwynt y gymuned leol, felly rydym wrth ein bodd eu bod yn annog cefnogwyr ar draws yr ardal leol i ystyried rhoi gwaed.

“Mae rhoi gwaed yn cael ei ystyried yn deithio hanfodol, felly os nad ydych chi wedi rhoi gwaed o’r blaen ac nad ydych chi’n hunanynysu ar hyn o bryd, yn unol ag arweiniad diweddaraf y Llywodraeth ar covid-19, ystyriwch gofrestru i roi gwaed.”

Os ydych chi rhwng 17 a 65 oed, gallwch ddod o hyd, a chofrestru ar gyfer eich sesiwn rhoi gwaed gyntaf, drwy fynd i www.welshblood.org.uk.