Menu / Cynnwys
Return to News

Datblygu talent – Clwb Rygbi Pontypridd

Y mae datblygu talent ifanc o ddalgylch cymoedd Rhondda, Cynon Taf, i chwarae rygbi ar y lefel uchaf posib, erioed wedi bod yn bwysig i Glwb Rygbi Pontypridd. Dros y degawdau blaenorol gwelwyd rhai o ser rhyngwladol y gem, megis Neil Jenkins, Martin Williams, Michael Owen a Gethin Jenkins, yn cael eu magu gan y clwb cyn mynd ymalen i chwarae dros Gymru a’r Llewod.

Mae’r broses o ddatblygu talent yn parhau, gya CR Pontypridd erbyn hyn ar lefel lled-broffesiynnol yn rhan o ranbarth y Gleision.

Y tymor hwn lawnsiwyd menter newydd hynod o bwysig – Pontypridd & Valleys Rugby Initiative – sydd yn gosod llwybrau pendant i chwaraewyr ifanc eu dilyn wrth anelu i chwarae i’r safon orau posib. Mae clwb Pontypridd wrth galon y fenter newydd hon.

O fewn y fenter, mae pum gris i chwaraewyr ifanc eu dilyn o lefel ysgolion dan bymtheg ymlaen drwy’r coleg ac i chwarae yn yr Uwch – Gynghrair genedlaethol ac i’r Academi ranbarthol.

Mae tim Ysgolion Pontypridd wedi profi cryn lwyddiant y tymor hwn, wedi ennill chwech o’u saith gem yng nghyngrair Tarian Dewar, ac yn awr yn barod i wynebu Caerdydd yn y rownd gyn-derfynnol.

Gall nifer o ddisgyblion dan ddeunaw ddewis gadael ysgol i astudio yng Ngholeg y Cymoedd, ac mae tim rygbi’r coleg yn cynnig y ris nesaf yn natblygiad y chwaraewyr rygbi ifanc. Yn cystadlu yng Nghyngrair Ysgolion a Cholegau Undeb Rygbi Cymry, mae Coleg y Cymoedd wedi bod ar y blaen trwy gydol y tymor, ac wedi eu coroni yn bencampwyr Cymru yn dilyn buddugoliaeth yn y rownd derfynnol yn erbyn Coleg Sir Gar.

Y lefel nesaf o ddatblygiad yw Prifysgol De Cymru gyda’i gampws a’i ganolfan hyfforddi newydd yn Nrheforest a Nantgarw. Mae’r brifysgol yn cystadlu yng Nghyngrair Colegau BUCS y De gyda’r nod o ennill dyrchafiaeth i’r brif adran genedlaethol.

O blith y chwaraewyr sydd wedi datblygu drwy rengoedd yr ysgolion a’r colegau, daw cyfle i rai ymuno ac Academi ranbarthol y Gleision, hefyd i chwarae i glwb Pontypridd ar lefel ieuenctid, yna i’r tim cyntaf ar lefel lled-broffesiynnol.

Mae nifer o chwaraewyr ifanc disglair yn awr yn dod i’r amlwg wedi dilyn y llwybr datblygiad hwn, er enghraifft y blaen-asgellwr Alun Lawrence fu’n gapten ar Goleg y Cymoedd ac sydd y tymor hwn yn chwarae i’r Brifysgol a Phontypridd ac yn aelod o’r academi rhanbarthol.

I sicrhau dilyniant, mae prif hyfforddwr Pontypridd, Justin Burnell, hefyd yn hyfforddi Ysgolion Pontypridd a Prifysgol De Cymru, tra fod ei ddirprwy Gareth Wyatt yn hyfforddi Coleg y Cymoedd. Bydd y datbygiad hwn o chwaraewyr ifanc addawol o’r cymoedd yn sicr o elwa ar ei ganfed i glwb Pontypridd, gyda’r gobaith o gyflwyno rhai o ser y dyfodol i Gymru.

This article commissioned for the local Welsh language journal Tafod Elai, focuses on the newly launched Pontypridd & Valleys Rugby Inititative, with Pontypridd RFC at its’ hub. The club has always nurtured young talent to go on to play at international level, the likes of Neil Jenkins, Michael Owen and Gethin Jenkins, and that process continues in the semi-pro era.

There are five steps within the current development structure, commencing with the Pontypridd Schools under 15s, through Coleg y Cymoedd and on to the University of South Wales, with many players also appearing for Pontypridd Youth, with an opportunity to progress into the Pontypridd senior squad and into the Blues Academy.

The structure is co-ordinated within the Pontypridd & Valleys Initiative, with Ponty head coach Justin Burnell also coaching Pontypridd Schools and the USW, and his assistant Gareth Wyatt coaching Coleg y Cymoedd. A prime example of a player who has followed the path to fulfilment is back rower Alun Lawrence, who captained Coleg y Cymoedd, and is now studying at the University of South Wales, a member of the regional academy, and linked with Pontypridd RFC.

Wordsearch

datblygu : develop

menter : initiative

prifysgol : university

llwybr : path

safon : standard