Menu / Cynnwys
Return to News

Datblygu a chyffroi – CR Pontypridd

Y mae tri mis wedi mynd heibio ers i Uwch-adran y Principality uno i un gynghrair, wedi iddi gael ei rhannu yn ddwy is-gynghrair – gorllewin a dwyrain – yn gynharach yn y tymor.

Mae’r gynghrair newydd yn dechrau cymryd siap, gyda’r rhan fwyaf o dimau erbyn diwedd Mawrth wedi chwarae saith neu wyth o gemau.

Digon anghyson fu hynt CR Pontypridd hyd yn hyn, yn hawlio’r chweched safle yn y tabl. Roedd dwy gem ddiweddar, gartref yn erbyn Penybont ac oddi cartref yn erbyn Castell Nedd (llun uchod), yn brawf o’r anghysondeb hyn, y ddwy gem yn rhai hynod o ddramatig gyda’r canlyniad yn y fantol tan y chwiban olaf un.

Ennillodd Ponty y ddwy gem, ond dim ond o drwch blewyn, a hynny ar ol gwneud eu gorau yn ol pob tebyg i golli. Yn sicr cafodd y dyrfa ar y ddau achlysur werth eu harian, gyda llwyth o geisiau yn cael eu sgorio a digon o gyffro.

Adlewyrchu cyfnod o drawsnewid o fewn y garfan y mae’r anghysondeb diweddar ym mherfformiadau Pontypridd. Y mae’r tymor hwn yn un lle mae tim hyfforddi newydd, dan ofal Justin Burnell, yn rhoi eu stamp ar bethau, a nifer o wynebau ifanc newydd yn y tim.

Mae llwybr datblygiad i chwaraewyr ifanc yn cael ei gynnig, o Ysgolion Pontypridd, i Goleg y Cymoedd ac ymlaen i Brifysgol De Cymru. Mae nifer o chwaraewyr o’r colegau hyn wedi cynrychioli Pontypridd yn yr Uwch-adran yn ystod y tymor, gydag ambell hen ben fel Ceri Sweeney a’r capten Dafydd Lockyer yn cynnig gwerth eu profiad iddynt.

Y darogan yw y bydd newidiadau mawr o fewn rygbi Cymru dros y flwyddyn neu ddwy nesaf, ac y mae strwythur a phwrpas Uwch-adran y Principality yn cael ei drafod yn fanwl gan Undeb Rygbi Cymru ar hyn o bryd. Eisioes mynegodd y cwmni darlledu cenedlaethol S4C ddiddordeb mewn dangos mwy o gemau’r gynghrair yn fyw ar y teledu, wedi i’r contract i ddangos gemau’r Pro-14 gael ei golli gan S4C a’r BBC.

Y nod i Bontypridd felly yw cadarnhau safle’r clwb yn yr Uwch-adran, a chryfhau’r broses werthfawr o ddatblygu talent ifanc lleol i gamu i’r bwlch.

Mynegodd prif weithredwr y clwb, Stephen Reardon, y farn fod disgwyliadau’r cefnogwyr efallai yn rhy uchel, ac mai gosod gwreiddiau ar gyfer llwyddiant y dyfodol sy’n bwysig ar hyn o bryd. Beth bynnag am hynny, mae gornestau pwysig i ddod yn y gynghrair, ac o leiaf mae gan Bontypridd y ddawn i gyffroi ac i ddiddanu, i chwarae rygbi creadigol, hyd yn oed os yw canlyniadau’r gemau yn y fantol tan yr eiliadau olaf!

This article commissioned for the local Welsh language journal Tafod Elai takes stock of the Premiership rankings three months since it became a fully integrated league, following the earlier east / west split.

The table is taking shape, with Pontypridd RFC currently in sixth position, reflecting the team’s inconsistency during a period of transition. Two recent games highlighted the problem, at home to Bridgend and away to Neath, with Ponty seemingly being hell bent on defeat before pulling out all the stops to win in high scoring encounters. The paying spectators certainly had their money’s worth.

With the WRU review proposing core changes to the structure of the game, the aim for Ponty this season is to consolidate and create a pathway through the Valleys Rugby Initiative for young talent to develop. The club’s CEO Steve Reardon voiced an opinion that maybe expectations amongst the dedicated support are set too high, and that the focus must be on gearing up for survival and future success.

Word-search

  • dwyrain : east
  • anghysondeb : inconsistency
  • strwythur : structure
  • tyrfa : crowd
  • cefnogwyr : supporters