Menu / Cynnwys
Return to News

Coaching continuity / Cysondeb hyfforddi

Whilst there are numerous changes made to the Pontypridd RFC squad as a new season approaches, there is a welcome theme of continuity in the the club’s coaching set-up.

A largely experimental squad, with a number of promising young players drafted in, will be mentored by an experienced team of coaches.

Justin Burnell (pictured) continues at the helm as Director of Rugby, aided by Assistant Coach Gareth Wyatt and ‘Scrum Doctor’ Matthew Rees, with Darren Bool overseeing the players’ conditioning. Dan Godfrey remains in the key role of Team Manager.

The strategy of developing young talent, focused through the Pontypridd Valleys Initiative, is reflected in the coaching structure, with Justin Burnell maintaining his dual role with Pontypridd Schools and the University of South Wales, and Gareth Wyatt in a similar position with Coleg y Cymoedd.

Former Wales and Lions hooker Matthew Rees, by now in the veteran stage of his career, is still intent on playing an active and influential role on the field of play for the Blues, but will dedicated time for a weekly training session firming up the Ponty set piece.

————————————————————————————————–

Tra fod nifer o newidiadau wedi eu gwneud i garfan CR Pontypridd wrth baratoi am y tymor i ddod, mae cysondeb i’w groesawu o ran y tîm hyfforddi.

Bydd carfan arbrofol gyda chynifer o chwaraewyr ifanc addawol wedi ymuno, yn cael ei mentora gan dîm profiadol o hyfforddwyr.

Wrth y llyw fydd y Cyfarwyddwr Rygbi Justin Burnell (llun uchod), yn cael ei gynorthwyo gan y Dirprwy Hyfforddwr Gareth Wyatt a’r ‘Scrym Feddyg’ Matthew Rees, gyda Darren Bool yn goruchwylio ffitrwydd y chwaraewyr. Bydd Dan Godfrey yn aros yn y swydd allweddol o Reolwr y Tîm.

Mae’r strategaeth o ddatblygu talent ifanc sy’n cael ei anelu drwy Fenter Cymoedd Pontypridd yn cael ei amlygu yn y strwythur hyfforddi, gyda Justin Burnell yn parhau gyda’i swydd gyffelyb gydag Ysgolion Pontypridd a Phrifysgol De Cymru, a Gareth Wyatt mewn safle tebyg gyda Coleg y Cymoedd.

Mae cyn-fachwr Cymru a’r Llewod Matthew Rees, erbyn hyn yn nesu at ddiwedd ei yrfa, yn dal yn awyddus i gyfrannu i’r Gleision ar y maes chwarae, ond yn ymroi sesiwn ymarfer bob wythnos i gryfhau safleodd-gosod Ponty.